Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-05-906

Teitl y ddeiseb: Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri

Geiriad y ddeiseb:Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru, sef y prif gorff sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd yng Nghymru, i atal cynnig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau Ward Sam Davies, ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau yn Ysbyty y Barri, ac i sicrhau bod Ysbyty y Barri yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd i'r cyhoedd yn y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru.

Gwybodaeth ychwanegol:Mae Ward Sam Davies yn ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys adsefydlu strôc, adsefydlu orthopedig, ac adsefydlu meddygol ymhlith gwasanaethau iechyd allweddol eraill. Mae gan y ward ddau wely seibiant hefyd.

 

Gwybodaeth gefndir

Mae ward Sam Davies yn ward yn Ysbyty'r Barri a chanddo 23 o welyau sy'n darparu asesiadau parhaus ac ymyriadau i gleifion hŷn, yn bennaf o Fro Morgannwg. Mae gan y ward ddau wely seibiant (ar gyfer cleifion sy'n bodloni’r meini prawf ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus), ac mae’n derbyn atgyfeiriadau o’r gymuned ac o safleoedd eraill.

Fel rheol, ar y ward hon mae cleifion oedrannus sydd wedi cael eu trosglwyddo o Ysbyty Athrofaol Cymru neu Ysbyty Athrofaol Llandochau pan nad oes angen gofal aciwt i gleifion mewnol arnynt bellach. Mae’r cleifion a drosglwyddir i ward Sam Davies yn rhai y nodwyd nad ydynt eto'n barod i fynd adref ac felly mae angen gwely 'gofal llai dwys' arnynt, neu gymorth ar gyfer adferiad pellach a chynllunio ar gyfer eu rhyddhau. I fwyafrif y cleifion a drosglwyddir i ward Sam Davies, mae eu hanghenion cynllunio rhyddhau yn rhai sy’n gofyn am gymorth a/neu’n sy’n rhai cymhleth. 

Y ward hon oedd y sefydliad gwasanaeth cyntaf i ennill Gwobr Arian am fod yn Ystyriol o Ofalwyr.

Ym mis Medi 2019, dechreuodd BIP Caerdydd a'r Fro broses ymgysylltu ar ei gynigion ‘i wella gofal ar gyfer pobl hŷn eiddil ym Mro Morgannwg’. 

The proposals adopt the principles of quicker assessment, quicker discharge and ongoing care needs in the community which will reduce the need for a hospital stay. Part of the proposal will consider the option of reducing the number of beds in Barry Hospital through the closure of Sam Davies Ward. Patients will then receive their care at either University Hospital Llandough or closer to home, with appropriate levels of clinical resource.  

Dywed y Bwrdd Iechyd fod hyn yn rhan o strategaeth y Bwrdd Iechyd, Siapio Ein Lles i’r Dyfodol, sydd wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol i gynyddu'r cymorth sydd ar gael i helpu pobl i fyw'n dda gartref ac yn y gymuned leol.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi cynhyrchu dogfen ymgysylltu, Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd, a dogfen cwestiynau cyffredin ar ei gynigion sy'n nodi:

Bydd cleifion sy’n cyrraedd ward Sam Davies eisoes wedi treulio cyfnod sylweddol yn yr ysbyty.  Byddant wedi cael eu hasesu mewn ysbyty aciwt ac yn aml efallai y byddant wedi cael asesiadau gofal a dyblygwyd gan wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol.  Efallai y bydd eu hanghenion gofal wedi’u gor-ragnodi, gan ein bod yn gweld cleifion ‘ar eu gwaethaf’ yn yr ysbyty felly gall yr anghenion o ran gofal ymddangos yn fwy dwys ac, yn fwy arwyddocaol, bydd eu harhosiad yn yr ysbyty wedi cael ei gynyddu.  Gall hyn arwain yn uniongyrchol at ddatgyflyrru clinigol ar gyfer nifer o gleifion, gan gynyddu eu heiddilwch a’u gwaeledd cyffredinol, a allai effeithio ar eu hanghenion o ran gofal yn y tymor hwy.

Ym mis Chwefror 2018, cynhaliom archwiliad a ddywedodd wrthym fod 69% o’r cleifion arward Sam Davies yn feddygol ffit i gael eu rhyddhau, ac nad oedd angen iddynt gael gwely ysbyty aciwt mwyach ar gyfer eu hanghenion.  Gan edrych yn fwy manwl ar y data cleifion gwelsom gyfleoedd a gollwyd i ryddhau cleifion adref a thrwy drosglwyddo cleifion i ward Sam Davies roeddem, mewn gwirionedd, wedi cynyddu hyd eu harhosiad.  Pan ailgynhaliwyd archwiliad tebyg ym mis Chwefror 2019 cafwyd canlyniadau tebyg.

Mae’r llwybr gofal a gynigir ar gyfer cleifion hŷn eiddil yn golygu y bydd ffyrdd mwy priodol o ddiwallu eu hanghenion a fydd yn osgoi gorfod aros yn yr ysbyty yn hir a diangen.  Bydd hefyd yn golygu y bydd eu hanghenion unigol yn cael eu diwallu’n fwy priodol yn agosach i’w cartref neu yn y gymuned.   

Dywed y Bwrdd Iechyd y bydd y cynigion yn helpu i wella annibyniaeth a symudedd, a byddant yn cynnig gwell cyfleoedd i gleifion wella ynghynt a dychwelyd adref yn fwy amserol gyda chymorth priodol yn y gymuned.

Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 1 Tachwedd ac mae'r ddogfen ymgysylltu yn nodi camau nesaf y Bwrdd Iechyd fel a ganlyn:

§  Rhannu’r ymatebion a dderbyniwyd gyda Chyngor Iechyd Cymuned (CIC) De Morgannwg

§  Ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd ac ysgrifennu adroddiad yn crynhoi’r adborth ac yn argymell y ffordd ymlaen

§  Cysylltu â’r CIC i ystyried canlyniad yr ymarferiad ymgysylltu a’r ffordd ymlaen

§  Rhoi cyhoeddusrwydd i ganlyniad yr ymarferiad ymgysylltu erbyn diwedd mis Tachwedd 2019

§  Cadarnhau’r cynigion terfynol gan adlewyrchu’r adborth o’r ymgysylltu, achytuno ar y camau nesaf, yn cynnwys a oes angen unrhyw ymgysylltu neu ymgynghori pellach.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gyfrifol am ddarparu a chyflawni gwasanaethau gofal iechyd diogel a chynaliadwy ar ran ei boblogaeth leol, a hynny o fewn yr adnoddau sydd ar gael.  Er mwyn cyflawni hyn mae'r Bwrdd Iechyd wedi datblygu modelau gofal newydd i gynorthwyo cleifion i gael eu gofal mor agos i'w cartref â phosibl, neu yn Ysbyty Athrofaol Llandochau i’r rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth.

Fel rhan o'u 'Strategaeth Llunio Dyfodol ein Lles' mae'r Bwrdd Iechyd wedi cynnig newidiadau i'r ffordd mae gwasanaethau ar gyfer pobl fregus oedrannus yn cael eu darparu.   Mae hyn yn cynnwys cau Ward Sam Davies yn Ysbyty'r Barri a chyflwyno rhagor o wasanaethau yn y gymuned i roi cymorth i gleifion.  

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dechrau ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n amlinellu'r newidiadau arfaethedig i'r ffordd mae'n darparu gwasanaethau i bobl fregus oedrannus.  Mae gwybodaeth am y cynigion ar gael ar eu gwefan a chafodd gweithdy cyhoeddus ei gynnal ar 23 Medi.   Bydd y Cyngor Iechyd Cymuned Lleol hefyd yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth.   Mae'r Bwrdd Iechyd wedi gwahodd safbwyntiau ac adborth ar y cynigion erbyn dydd Gwener 1 Tachwedd 2019. 

Ni fyddai'n briodol imi wneud sylwadau ar y cynigion ar yr adeg hon.